RWM yn sefydlu partneriaeth gyda’r BGS

Mae Arolwg Daearegol Prydain (British Geological Survey), sef asiantaeth geowyddoniaeth cenedlaethol y DU ac un o arolygon daearegol mwyaf blaengar y byd, ac RWM am gydweithio i ddarparu arbenigedd, ymchwil a gwybodaeth er mwyn cefnogi rhaglen gwaredu daearegol y DU.

Heddiw, cyhoeddodd y ddau sefydliad sy’n rhan o Lywodraeth y DU gytundeb pum mlynedd yn nodi’r fframwaith ar gyfer cydweithio ar lefel strategol, technegol a gweithredol. Bydd y fframwaith yn allweddol i’n helpu ni i ddeall ac asesu’r creigiau sydd o dan yr arwyneb a’u haddasrwydd ar gyfer Cyfleuster Gwaredu Daearegol yn y DU wrth i ni symud drwy’r broses o ganfod safle addas a chymuned sy’n fodlon cynnig lleoliad.

Mae’r Cyfleuster Gwaredu Daearegol yn rhwydwaith o gladdgelloedd a thwneli sydd wedi’u hadeiladu i lefel beirianegol i mewn i’r creigiau, cannoedd o fetrau dan y ddaear. Mae wedi’i gynllunio i waredu gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd yn ddiogel ac am byth.

Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn nodi ffyrdd o weithio rhwng RWM a BGS, ac mae’n disgrifio’r egwyddorion allweddol a’r meysydd ar gyfer cydweithio, gan gynnwys cynllunio strategol, nodweddu safleoedd, ymgysylltu â rhanddeiliaid, ymchwil, hyfforddiant, cyfathrebu, a chyfnewid gwybodaeth.

If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email rwmfeedback@nda.gov.uk. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.

Bydd y bartneriaeth hon rhwng y ddau sefydliad annibynnol yn golygu y bydd gwaith ymchwil gymhwysol o’r radd flaenaf ym maes geowyddorau amgylcheddol yn y DU yn cyfrannu at gyflawni Cyfleuster Gwaredu Daearegol.

Dywedodd Karen Wheeler, Prif Weithredwr RWM,

“Delivering a Geological Disposal Facility to permanently deal with UK’s higher-activity radioactive waste is the right thing to do. BGS will play a key role in ensuring we receive expert impartial advice as we work on this vital national programme. Their expertise in UK geoscience is unparalleled and crucially they will help us fully understand the rocks below the surface and their suitability for a GDF.”

Dywedodd Dr. Karen Hanghøj, Cyfarwyddwr Arolwg Daearegol Prydain,

“The agreement with RWM will help to maintain BGS’s impartiality whilst enabling us to provide the high-quality and objective geoscientific knowledge and expertise required for the delivery of a UK Geological Disposal Facility. BGS research will help to progress the UK’s understanding about the rocks below its surface, and their suitability for hosting a GDF, as the importance of finding environmentally sound solutions for the issue of radioactive waste disposal grows. It’s also important that communities and their representatives understand how geoscience plays a role in the process of evaluating sites for suitability, and this will form part of our work.”